Pennaeth y Wladwriaeth yn Israel ydy Arlywydd Israel (Hebraeg: נְשִׂיא הַמְּדִינָה, Nesi HaMedina, lit. Arlywydd y Wladwriaeth). I raddau, mae'r swydd yn un seremonïol, gyda'r pwerau gweithredol yn nwylo'r prif weinidog. Yr arlywydd presennol yw Reuven Rivlin, a oedd wedi ymgymryd a'r swydd ar 24 Gorffennaf 2014. Etholir arlywyddion gan y Knesset am dymor o saith mlynedd, a dim ond am un tymor y gall unigolyn wasanaethu.
Developed by StudentB